P-05-802 Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Dafis, ar ôl casglu 338 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.
Yn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr argymhellir yn BS4163:2014 "Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer". Mae dosbarthiadau mwy o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu mewn amgylcheddau gweithdy.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel
a ganlyn:
"9 Rheoli’r amgylchedd addysgu
9.1
Gwybodaeth gefndir
Dylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal
weithio, i sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth
effeithiol.
Yng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un
athro cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal
weithio.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar
gyfer pob dosbarth mewn pynciau ymarferol."
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad